Community Rangelands |
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
|||
![]() |
|||
![]() |
|||
![]() |
|||
Cyfeiria newid byd-eang (global change) at gyfanswm yr effaith a gaiff yr hil ddynol ar y blaned. Maen cynnwys newidiadau yng nghyfansoddiad yr atmosffer, newid yn yr hinsawdd a newidiadau yn y defnydd a wneir o dir o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, politicaidd, economaidd, technolegol a demograffaidd. Maer syniad o reolaeth gynaladwy yn ddelfryd sydd wedi cael ei mabwysiadu i ryw raddau led led y byd yn ddiweddar. Serch hynny, maer afael sydd ganddom ar y drefn sefydliadol syn cynnal y ddelfryd mewn ardaloedd porfeldirog fel deheubarth Affrica ac ardaloedd tebyg lle maer hinsawdd yn amrywiol, yn wan. Prin ywr wybodaeth sydd gennym hefyd am ba mor effeithiol ywr defnydd amrywiol a wneir or adnoddau naturiol yn yr ardaloedd rhain. Er bod cryn dipyn o waith wedi ei wneud ar astudiaethau penodol mewn rhanbarthau unigol, mae astudiaethau sydd wedi cyfuno arbenigedd y gwyddorau bio-ffisegol a chymdeithasol yn brin. Yn ystod y dair mlynedd nesaf, maer prosiect a ddisgrifir ar y tudalennau yma am fwrw ati i astudior ffactorau syn ymwneud â rheolaeth gynaladwy yn y porfeldiroedd mewn astudiaeth gymharol a fydd yn cyfuno disgyblaethau ar draws ystod eang o systemau ffisegol a chymdeithasol. |